Croeso i’r Bwtler a’r Hyfforddwr Staff Timothy Moores
Mae bod yn fwtler yn fwy na galwedigaeth, mae’n alwad. Mae perffeithrwydd celfydd ei wasanaeth, sy’n rhoi boddhad mawr iddo, yn aros hyd heddiw yn ymgorfforiad o gwrteisrwydd hyderus yn cael ei gyflawni ar y lefel uchaf.
Teimladrwydd, gallu, ysbryd cyd-dynnu a nodweddion arweinydd, ynghyd â phleser cyson wrth roi gwasanaeth a dyhead i ddysgu mwy, yw nod amgen staff rhagorol. Enillais fy mlynyddoedd lawer o brofiad mewn tai preifat ym Mhrydain ac Ewrop y Cyfandir. Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf rwyf wedi ymroi i hyfforddi staff yn y diwydiant gwestai. Ran amlaf mae hyn yn cynnwys hyfforddiant wrth weithio, sydd ag iddo ddwy fantais amlwg: yn gyntaf, gall staff fynd ymlaen â threfn arferol eu gwaith bob dydd yn ystod yr hyfforddiant ac yn ail, mae mynd wrth sodlau staff yn caniatáu imi wella eu sgiliau gofal gwesteion gan ddefnyddio enghreifftiau ymarferol. Mae’r ffordd yma o fynd ati yn fwy perswadiol na theori ystafell ddosbarth ac yn ychwanegu at effeithiolrwydd sesiwn hyfforddi. Elfen anhepgor wrth baratoi cwrs hyfforddi yw ymweld â gwesty o flaen llaw er mwyn barnu steil y sefydliad a safon bresennol y gwasanaethau gofal gwesteion. Mae hyn yn caniatáu imi gynnig cynigion manwl i’r rheolwyr.
Rwyf yn falch o ateb pob ymholiad ynglŷn â chrefft gwasanaeth ardderchog a gofal gwesteion gwasanaethgar.
Timothy Moores

Y Bwtler –
gweithiwr proffesiynol medrus a chwrtais